Non-Compliance Part 2 CY
- Nid yw penawdau ar rai tudalennau mewn trefn nythu resymegol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, Gwybodaeth a Pherthnasoedd (Lefel A)
- Mae gan rai elfennau drefn afresymegol o ran ffocws. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.3 WCAG 2.1, Trefn Ffocws Lefel A
- Ar ôl chwyddo 200% a mwy, nid yw ffocws y bysellfwrdd yn weladwy ar ôl symud o 'Hygyrchedd' o fewn y ddewislen byrger.Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 WCAG 2.4.7 Ffocws yn Weladwy
- Ar ôl chwyddo 400% ac mewn golwg symudol (320 x 256 picsel), nid yw'r eicon cwci ar waelod y dudalen we yn ail-lifo'n gywir gan ei fod yn gorchuddio cynnwys ar draws y dudalen we. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 WCAG 1.4.10 Ail-lif
- Wrth oedi dros gwymplenni'r bar llywio, nid oes unrhyw fecanwaith i ddiystyru'r cynnwys ychwanegol a sbardunwyd heb symud pwyntydd neu ffocws bysellfwrdd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 WCAG 1.4.13 Cynnwys wrth Oedi neu Ffocws
- Ar ôl chwyddo 200% a mwy, unwaith y bydd 'Chwilio' wedi'i ehangu, mae’r bysellfwrdd yn tabio i 'Cymraeg' a 'Dewislen' cyn tabio i'r bar 'Chwilio'. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 WCAG 2.4.3 Trefn Ffocws
- Nid oes gan rai dolenni gyferbyniad lliw digonol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 WCAG 1.4.3 Cyferbyniad (Isafswm): Rhaid i elfennau gael cyferbyniad lliw digonol.
- Pan fydd y ddewislen byrger ar agor ar ôl chwyddo 200%, a'r defnyddiwr yn tabio heibio "Hygyrchedd", mae cydrannau y tu ôl i'r ddewislen yn derbyn ffocws ond yn cael eu cuddio gan y ddewislen.Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.4.11 Ffocws Heb ei Guddio (Isafswm)