AEInfo: Intro text CY
Os oes angen ichi gael eich gweld mewn Adran Damweiniau ac Achosion Brys neu Uned Mân Anafiadau, bydd yr wybodaeth isod yn dangos ichi lle mae'r ysbytai agosaf atoch. Ar gyfer y rhan fwyaf o ysbytai Cymru, bydd yn nodi faint o amser yr ydych yn debygol o'i dreulio yn yr Adran/Uned. Mae gwybodaeth sylfaenol am rai ysbytai yn Lloegr wedi'i chynnwys ar gyfer cleifion sy'n byw mewn ardaloedd ar y ffin. O ran cleifion yn ardal Caerdydd a'r Fro, mae'r bwrdd iechyd bellach yn gweithredu system Ffonio'n Gyntaf ac felly nid yw'r amseroedd aros ar gael. O ran cleifion yn ardal Powys, mae'r bwrdd iechyd bellach yn gweithredu system Ffonio'n Gyntaf. Mae dewis y lle cywir yn bwysig er mwyn cael y driniaeth fwyaf addas a hynny yn amserol. Os nad ydych yn gwybod pa opsiwn i'w ddewis, defnyddiwch y Gwiriwr Symptomau GIG 111 Cymru ar-lein.